Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:00

 

 

 

 

Agenda

(121)v5

 

<AI1>

Datganiad Personol - Bethan Jenkins

</AI1>

<AI2>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013 (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013 (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI4>

<AI5>

4. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI5>

<AI6>

Cynnig i Ethol Aelod i'r Pwyllgor Busnes

NNDM 5196   Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Lesley Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur Cymru).

 

</AI6>

<AI7>

5. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (15 munud) 

NDM5191 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 yn cael ei gwneud yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol:
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013
Memorandwm EsboniadolAr gael yn Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol –Ystyriaethau Blaenorol ar y Gorchymyn Gwreiddiol

 

</AI7>

<AI8>

6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2011-12 (60 munud) 

NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.

Gosodwyd copi o’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mawrth 2013 ac mae ar gael drwy’r linc a ganlyn:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=243903&ds=3/2013

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai ‘presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn ysgolion.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau a roddwyd i ysgolion er mwyn sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i dargedu’r cyfraddau uchel o absenoldeb ymhlith disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, er mwyn codi lefelau cyflawniad disgyblion o gefndiroedd tlotach gymaint â phosibl.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy na’r llynedd.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu meincnodau a thargedau cenedlaethol i fonitro'r cynnydd a wneir i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad.

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r 'disgyblion mwy galluog a thalentog yn cyflawni gystal yng Nghymru ag yn Lloegr', yn ôl yr adroddiad.

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi cryn bryder bod angen gwella safonau llythrennedd dros hanner yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad.

Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.

Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog y Gweinidog i egluro sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr adroddiad hwn gan gorff hyd braich annibynnol.

Gwelliant 13 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r methiannau yn system addysgol Cymru a nodwyd gan Estyn.

 

</AI8>

<AI9>

7. Dadl: Llais y Cleifion - Cryfhau Rôl y Cynghorau Iechyd Cymuned (60 munud) 

NDM5193 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.

Dogfen Ategol:
E-bostiwyd crynodeb o’r ymatebion i’r papur ymgynghori: Llais i Gleifion yng Nghymru i Aelodau’r Cynulliad ar 12 Mawrth 2013 ac mae ar gael drwy’r linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/voice/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned’ a rhoi yn ei le ‘ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn eu cynorthwyo’

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai aelodau’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned sydd yn y sefyllfa orau i benodi eu Cadeirydd, yn hytrach na Gweinidogion Cymru.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r canllawiau ynghylch rôl Cynghorau Iechyd Cymuned i fod yn ‘llais i gleifion’ yn y broses o ad-drefnu gwasanaethau.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned, yn seiliedig ar fodel yr Alban, er mwyn gwella rôl Cynghorau Iechyd Cymuned o ran sicrhau bod safbwyntiau'r cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol am ein GIG.

Gellir gweld Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned Gweithrediaeth yr Alban drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.scdc.org.uk/what/national-standards/

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) – TYNNWYD YNOL

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi ei phenderfyniad i sefydlu Powys fel Cyngor Iechyd Cymuned unedig, a fyddai'n peryglu'r gallu i ymgysylltu'n effeithiol â chleifion a'r cyhoedd ym Mhowys.

 

</AI9>

<AI10>

8. Dadl Cyfnod 1 ar Fil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013 (60 munud) 

NDM5192 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cafodd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 7 Mawrth 2013.

Dogfennau Ategol
Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI10>

<AI11>

9. Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) – eitem wedi'i symud o 20 Mawrth 2013 (5 munud) 

NDM5190 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

</AI11>

<AI12>

Cyfnod Pleidleisio

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Mawrth 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>